Archebu ymweliad i'r ganolfan ailgylchu gwastraff cartref
Peidiwch â phrynu pethau newydd, rhowch ail gyfle i'ch eitemau sydd wedi torri.
Cyfeiriadur atgyweirio
Bydd popeth a brynwn yn torri yn y pen draw. Pan fydd hyn yn digwydd peidiwch â'i daflu i ffwrdd. Gellir atgyweirio y rhan fwyaf o eitemau yn hawdd, yn aml am bris isel.
Beth am helpu'r amgylchedd, lleihau allyriadau CO2, ac arbed rhywfaint o arian ar yr un pryd?
Dewch o hyd i fusnes atgyweirio lleol ar yr cyfeiriadur atgyweirio ar-lein.
Siop y ganolfan ailgylchu
Mae'r siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul, 9am - 4pm
Nid oes angen apwyntiad i ymweld â siop y ganolfan ailgylchu.
Os oes gennych apwyntiad i ymweld â'r ganolfan ailgylchu gwastraff cartref, mae croeso i chi ymweld â’r siop yn syth cyn neu ar ôl eich ymweliad.
Mae'r siop wedi'i lleoli yng CAGC Casnewydd ac mae'n cael ei rhedeg gan Wastesavers.
Mae eitemau y gellir eu hailddefnyddio sy'n rhy dda i’w hailgylchu yn cael eu glanhau a'u paratoi yn barod i'w gwerthu.
Mae'r siop yn gwerthu:
- dodrefn
- nwyddau cartref
- trugareddau
- beiciau
- clybiau golff
- gemau
Mae'r stoc yn newid bob wythnos. P'un a oes angen dodrefn arnoch ar gyfer y cartref neu rywbeth ar gyfer hobi newydd, dewch i gael pip.
Cadwch lygad ar-lein ar Facebook a X am eitemau sydd ar gael yn y siop.