Mae bioamrywiaeth yn golygu 'amrywiaeth fiolegol' ac mae gwarchod yr holl rywogaethau a'r cynefinoedd y maent yn byw ynddynt yn rhan o hynny.
Mae llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr o rywogaethau a chynefinoedd sydd â blaenoriaeth yng Nghymru, o dan Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Y rhywogaethau â blaenoriaeth yng Nghasnewydd yw:
- pathewod
- ystlumod
- dyfrgwn
- llygoden bengron y dŵr
- ffyngau
- gwyfyn ranunculus bach
- cardwenynen feinlais
Y cynefinoedd â blaenoriaeth yng Nghasnewydd yw:
- coetir
- dŵr croyw
- gwlyptiroedd
- tir fferm
- glaswelltir isel
- mannau gwyrdd agored
- cynefinoedd morol ac arfordirol
Partneriaeth natur leol Casnewydd
Grŵp o weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda'i gilydd i ofalu am ein bioamrywiaeth leol yw partneriaeth natur leol Casnewydd.
Y nod yw gwella bioamrywiaeth leol ledled Casnewydd.
Dyma rai o’i haelodau:
- Cyngor Dinas Casnewydd
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent
- Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar
- Gwarchod Glöynnod
- Grŵp Ffwngau Gwent
- Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid
- Cymdeithas Adaryddol Gwent
- Cartrefi Dinas Casnewydd
- POBL
- SEWBReC (Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru)
- Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru
- Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn