Mae ein tîm bioamrywiaeth yn darparu cymorth amgylcheddol i bob ysgol o fewn y cytundeb lefel gwasanaeth bioamrywiaeth ysgolion (CLG).
Mae'r CLG ar gael i holl ysgolion Casnewydd, maent yn eu cynorthwyo a'u cynghori ar wella eu tiroedd er budd bywyd gwyllt ac addysg.
Gallant gefnogi gyda:
- gwella tiroedd ysgol ar gyfer natur
- dysgu sut i ddefnyddio byd natur fel adnodd addysgol
- cynorthwyo i gyflwyno gweithgareddau ysgol goedwig
- defnyddio gwarchodfeydd natur lleol, parciau a mannau gwyrdd
- darparu gweithgareddau dysgu yn yr awyr agored yn seiliedig ar natur
Gall y tîm gefnogi ysgolion yn eu hysgol goedwig a datblygiad eu hystafelloedd dosbarth awyr agored, gall hyn gynnwys gwella cynefinoedd, creu ac eco-ysgolion.
Gwarchodfeydd natur
Mae croeso i ysgolion ddefnyddio gwarchodfeydd natur Allt-yr-Ynn a Sain Sillian pryd bynnag y dymunant, ar eu pen eu hunain. Gofynnwn i chi roi gwybod i ni am ddyddiadau fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.
Gall ysgolion hefyd drefnu i ddosbarthiadau ymweld â’r gwarchodfeydd gyda’r swyddog bioamrywiaeth mewn ysgolion am sesiwn dwy awr o addysg amgylcheddol. Mae'r gwasanaeth hwn am ddim i'r ysgolion hynny yn y CLG.
Gall y tîm hefyd helpu ysgolion i archwilio Casnewydd ymhellach, trwy wneud defnydd o fannau agored y tu allan i'r ysgol, fel coetiroedd, afonydd a pharciau lleol. Gall y tîm arwain sesiynau yn ôl yr angen ar y safleoedd hyn yn yr un modd â’r gwarchodfeydd natur lleol (efallai y codir tâl am y rhain).
Gallwch gysylltu â'r swyddog bioamrywiaeth mewn ysgolion drwy e-bostio [email protected].