Llygredd golau
Golau di-groeso o oleuadau stryd a ffynonellau artiffisial yw llygredd golau.
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ymchwilio i gwynion am olau artiffisial a allai fod yn achosi niwsans.
Mae angen golau artiffisial ar leoliadau fel safleoedd rheilffordd er diogelwch a diogelwch.
Nid oes lefel penodol o olau i benderfynu beth sy'n niwsans statudol. Bydd sawl ffactor yn cael eu hystyried gan gynnwys hyd, amlder ac effaith y golau.
Er mwyn i olau artiffisial fod yn niwsans statudol, rhaid i'r golau fod yn ormodol neu'n cynhyrchu lefel afresymol o olau ar gyfer yr ardal, a rhaid iddo fod yn effeithio arnoch chi yn eich tŷ.
Gallwch ofyn i'r cyngor ystyried y sefyllfa os nad yw siarad â’r person sy'n gyfrifol yn gweithio.
Mae Adran 82 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn caniatáu i unigolyn gymryd camau drwy'r llys ynadon yn os yw'r golau’n niwsans.
Dylech ofyn am gyngor cyfreithiol cyn dilyn y llwybr hwn.
Radon
Nwy ymbelydrol naturiol yw radon, ac fe’i gynhyrchir gan fathau penodol o greigiau a phriddoedd ledled y DU. Gellir ei anadlu a'i amsugno. Mae pobl sy'n profi lefelau uchel o radon yn fwy tebygol o gael canser yr ysgyfaint.
Nid oes ganddo flas, arogl na lliw ac mae angen dyfeisiau arbennig i'w ganfod.
Er bod y rhan fwyaf o Gasnewydd yn cael ei ystyried yn 'ardal a allai gael ei heffeithio gan radon', mae'n annhebygol y bydd lefelau niweidiol o nwy radon yn effeithio ar y rhan fwyaf o’r tai.
Yn ôl Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999, mae'n ofynnol i gyflogwyr asesu risgiau radon mewn gweithleoedd.
Ewch i UKradon i ddarganfod mwy.