Gall ansawdd yr aer yr ydym yn ei anadlu effeithio ar ein hiechyd.
Prif achosion ansawdd aer gwael yw allyriadau diwydiannol a thraffig ffyrdd.
Mae gan y llywodraeth ac awdurdodau lleol ymrwymiad cyfreithiol i wella ansawdd aer.
Y llygryddion sy'n peri pryder pennaf yw nitrogen deuocsid (NO2) sydd â throthwy o 40ugm3 y flwyddyn, a deunydd gronynnol (PM10 a PM2.5).
Os canfyddir bod ansawdd aer yn uwch na'r safonau, rhaid datgan ardal rheoli ansawdd aer (AQMA). Ar hyn o bryd mae 11 AQMA yng Nghasnewydd.
Gweld lleoliadau AQMA Casnewydd
Yn 2019 mabwysiadodd y cyngor strategaeth teithio cynaliadwy i weithio tuag at leihau faint o lygredd a achosir gan y rhwydwaith trafnidiaeth.
Mae ein hadroddiad ansawdd aer blynyddol ar gael yn y dogfennau isod.
Data
Mae 80 o diwbiau tryledu a dwy orsaf fonitro awtomatig wedi'u lleoli ar draws Casnewydd:
- A – San Silian: monitorau ar gyfer nitrogen deuocsid, ocsidau nitrogen, hydrocarbonau polyaromatig (PAH), bensen, PM10 a PM2.5
- B - Uned yr M4: (a weithredir gan lywodraeth Cymru) sy’n monitro nitrogen deuocsid, nitrogen ocsid ac osôn.
Gallwch weld data o'r unedau hyn ar wefan Ansawdd Aer Cymru.
Ardaloedd rheoli mwg
Nid yw ardaloedd rheoli mwg yn ddi-fwg, ond maent yn cyfyngu allyriadau simnai ar gyfer eiddo preswyl a masnachol.
Mae'n drosedd llosgi tanwydd sy'n cynhyrchu mwg o simnai mewn ardal rheoli mwg.
Gellir defnyddio tanwydd glân sy'n llosgi heb fwg mewn ardal rheoli mwg.
Gallai’r rhain gynnwys:
- nwy
- olew
- gwresogi trydan
- tanwydd solet (tanwydd di-fwg)
Ni ddylid llosgi glo a phren ar danau grât agored mewn ardal rheoli mwg ond dylid eu defnyddio mewn peiriant gwresogi eithriedig.
Gellir cymryd camau trwy’r llys yn erbyn y rhai y canfyddir eu bod yn cyflawni trosedd.
- Austin Friars
- Cambrian Road
- Charles Street (rhifau o 21 ymlaen)
- Corn Street
- Commercial Street 1-41 a 149-177
- Friars Road
- Griffin Street
- High Street
- Llanarth Street
- Market Street
- Skinner Street
- Upper Dock Street - 6-25 a 167-198
- Chartist Tower - rhwng 173-174 Upper Dock Street
- Capel Crescent - 173-225 a’r neuadd gymunedol
- Charlotte Green - 1-24; 61-91; 123-152
- Francis Court - 25-60; 99-122; 153-172
Sêr ECO
Mae Sêr ECO yn gynllun cydnabod fflyd sy'n annog ac yn cefnogi gweithredwyr loris, faniau, bysiau a choetsis i redeg eu fflydoedd yn fwy effeithlon a gwella ansawdd aer lleol.
Mae'r cynllun yn wirfoddol ac yn hollol rhad ac am ddim.
Bydd eich fflyd yn cael ei graddio (yn weithredol ac yn amgylcheddol) o 1-5 gan arbenigwyr diwydiannol a fydd yn cynghori sut i wella effeithlonrwydd y fflyd.
Ewch i wefan Sêr ECO am ragor o fanylion.
Datblygwyr
Rydym yn hyrwyddo egwyddorion teithio cynaliadwy ym mhob cynllun datblygu o'r cam cysyniad i'r cam adeiladu. Os ydych yn ystyried cyflwyno cais cynllunio yng Nghasnewydd, efallai y bydd angen i chi ystyried ansawdd aer.
E-bostiwch [email protected]k i ofyn am gopi o'n canllawiau cynllunio atodol.
Dweud eich dweud
Hoffem gael eich barn ar ein cynllun gweithredu ansawdd aer drafft 2023-2028. Edrychwch ar ein tudalen ymgynghoriadau i ddarganfod mwy.