Ym mis Tachwedd 2021, datganodd Cyngor Dinas Casnewydd argyfwng ecolegol a hinsawdd. Roedd hyn yn cydnabod mai newid yn yr hinsawdd yw problem fwyaf blaenllaw ein cenhedlaeth.

Fel rhan o'r datganiad hwnnw, gwnaethom ymrwymo i ddatblygu cynllun i drawsnewid sut mae'r ddinas yn defnyddio ac yn cynhyrchu ynni.

Gwnaethom ddadansoddi ystod o sefyllfaoedd ar gyfer sut y gallai system ynni glanach edrych. O'r dadansoddiad hwn, gwnaethom gynhyrchu cynllun ynni ardal leol ar gyfer Casnewydd.

Mae'r cynllun yn gosod gweledigaeth ar gyfer sut bydd y system ynni di-garbon yn 2050.

Mae'n nodi meysydd sy’n flaenoriaeth, a chamau gweithredu i ni eu cymryd yn y meysydd hyn.

Roedd hefyd yn nodi map llwybr ar gyfer y tymor hir i adeiladu dinas sy'n cael ei bweru gan ffynonellau ynni gwyrddach a glanach.

Paratowyd y cynllun gan Arup ac Afallen ar ran Cyngor Dinas Casnewydd, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.