Mae ystod eang o gymorth ar gael i bobl sy'n wynebu pwysau ariannol yn ystod misoedd y gaeaf.
Gall timau'r cyngor, fel y cysylltwyr cymunedol a'r gwasanaeth cynhwysiant ariannol roi cyngor gwerthfawr. Darganfyddwch sut i gysylltu â nhw ac am gymorth arall gan y cyngor ar y dudalen sut gallwn ni helpu.
Mae'n bwysig bod pensiynwyr ar incwm isel yn gweld a ydyn nhw’n gymwys i gael Credyd Pensiwn. Gallai hyn ryddhau cymorth arall gan gynnwys taliad tanwydd gaeaf, cymorth gyda chostau tai a gostyngiadau’r dreth gyngor. Mae’n rhaid i bobl hawlio erbyn 21 Rhagfyr i dderbyn taliad tanwydd gaeaf eleni.
Mae ein tudalen sut gall bobl eraill helpu yn cynnwys mwy o fanylion am Gredyd Pensiwn, yn ogystal ag amrywiaeth o wybodaeth am gymorth gan sefydliadau eraill.
Mae'n cynnwys gwybodaeth am gynlluniau arbed ynni, cronfa cymorth dewisol Llywodraeth Cymru a chyngor ar fudd-daliadau.