Mae rhai o'n partneriaid yn cynnig ystod o gefnogaeth a chyngor.

Mae hyn yn ychwanegu at incwm pensiwn. Efallai y byddwch yn gymwys hyd yn oed os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun neu os oes gennych gynilion.

Efallai y bydd pobl sy’n hawlio credyd pensiwn hefyd yn gallu cael:

  • taliadau costau byw ychwanegol
  • help gyda chostau gwresogi
  • cymorth gyda rhent a threth cyngor
  • trwydded deledu am ddim os ydych yn 75 oed neu’n hŷn
  • cymorth gyda chost gwasanaethau’r GIG

Gallwch weld a ydych yn gymwys drwy ymweld â chredyd pensiwn neu drwy ffonio 0800 99 1234.

Os nad ydych yn siŵr pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio, gall Advicelink Cymru eich helpu i wirio a hawlio beth sydd gennych chi.

Cysylltwch ag un o’r cynghorwyr heddiw drwy ffonio’r llinell gymorth am ddim ar 0808 250 5700.

Mae cyngor ar fudd-daliadau ar gael trwy citizens advice.

Mae gwefan Turn2us hefyd yn helpu pobl mewn angen ariannol i gael mynediad at:

  • budd-daliadau lles
  • grantiau elusennol
  • cymorth ariannol arall

Gallwch hefyd ddefnyddio EntitledTo i wirio eich hawl i fudd-daliadau.

Gallech dderbyn taliad costau byw ychwanegol yn awtomatig.

Mae hyn os ydych yn hawlio budd-daliadau penodol. Gan gynnwys credydau treth.

Ewch i Gov.UK am ragor o fanylion.

Mae'r gronfa cymorth dewisol yn darparu dau fath o grant. Nid oes angen i chi dalu'n ôl.

Taliad cymorth brys (EAP)

Mae hyn yn helpu i dalu am gostau hanfodol fel:

  • bwyd
  • nwy
  • trydan
  • dillad

Mae'r taliad ar gyfer pobl sydd yn:

  • profi caledi ariannol eithafol
  • di-waith
  • gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eu taliad cyntaf

Taliad cymorth unigol (IAP)

Grant i'ch helpu chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano i fyw'n annibynnol yn eu cartref, neu eiddo rydych chi neu nhw'n symud iddo.

Ewch i dudalen we’r gronfa cymorth dewisol neu ffoniwch 0800 859 5924.

Mae undebau credyd yn gwmnïau arian cydweithredol nad ydynt yn gwneud elw.

Mae Undeb Credyd Casnewydd yn darparu benthyciadau cystadleuol a lle diogel i gynilo, gan arbenigo mewn benthyciadau bach.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth ar dudalen we Undeb Credyd Casnewydd.

Mae undeb credyd Smart Money Cymru yn cynnig gwasanaethau ariannol syml a fforddiadwy.

Ewch i Smart Money Cymru am ragor o wybodaeth.

Mae Cynhesu Cymru yn wasanaeth cynhwysfawr a diduedd am ddim.
Mae'n helpu pobl i leihau eu biliau ynni.

Ewch i wefan Cynhesu Cymru neu e-bostiwch [email protected].

Os ydych yn cael trafferth talu eich biliau cyfleustodau, cysylltwch â'ch cyflenwr cyn gynted â phosibl. Gallant gynghori pa gymorth sydd ar gael.

Mae gan Dŵr Cymru amrywiaeth o gyngor ar gael gan gynnwys y tariff HelpU.
Mae hyn yn helpu cartrefi incwm isel drwy roi cap ar y swm y mae'n rhaid i chi ei dalu am eich dŵr.

Dysgwch fwy drwy ymweld â gwefan Dŵr Cymru.

Y prif gynllun ar gyfer cefnogi gwelliannau effeithlonrwydd ynni.

Mae hyn yn cynnwys inswleiddio a rhai gwelliannau gwresogi mewn cartrefi incwm isel a bregus.

Ffoniwch y llinell gymorth ar 0800 444202 (dydd Llun i ddydd Gwener 8am-8pm; dydd Sadwrn a dydd Sul 9am-5pm)

Gwybodaeth a chyngor ar:

  • gwneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon
  • lleihau eich allyriadau carbon
  • gostwng eich biliau ynni

Dysgwch fwy ar wefan yr ymddiriedolaeth arbed ynni.

Darparu cyngor ar gofrestr gwasanaeth blaenoriaeth Western Power Distribution.

Mae hyn dros y ffôn ac ymweliadau cartref. Mae’r gofrestr yn sicrhau cymorth a chefnogaeth ychwanegol yn ystod toriadau pŵer ar gyfer:

  • yr henoed
  • y sâl iawn
  • pobl anabl
  • y rhai sy'n dibynnu ar bŵer ar gyfer offer meddygol

Ymholiadau cyffredinol: 0800 096 3080 o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am-5pm

Yn cynnig cyngor ynni a dŵr am ddim i bobl anabl.

Mae'r gwasanaeth yn agored i unrhyw berson anabl neu gartref lle mae un neu fwy o bobl anabl yn byw.

Ewch i wefan Scope neu ffoniwch 0808 801 0828

Cyngor, cefnogaeth ac opsiynau atgyfeirio am ddim wedi'u teilwra i anghenion y cartref.

Ewch i wefan Cymru Gynnes am ragor o wybodaeth.

Gallwch ffonio 01656 747622 neu e-bostio [email protected] 

Mae hyn ar gyfer cyllid er mwyn talu am gwelliannau effeithlonrwydd ynni.

Mae’n berthnasol i aelwydydd incwm isel a’r rhai sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig.

Os ydych yn poeni am filiau ynni, gallwch siarad â chynghorydd.

Gallant gynnig cyngor diduedd am ddim ar:

  • arbed ynni a dŵr
  • rheoli arian
  • gwirio eich bod ar y tariff gorau
  • eich hawl i fudd-daliadau

Ffoniwch 0808 808 2244 neu gofynnwch am alwad yn ôl gan ddefnyddio ffurflen ar-lein Gov.Wales.

Mae'n darparu pryd o fwyd poeth am ddim i bobl mewn angen am 6.30pm ar ddydd Mawrth.

Y cyfeiriad yw:

Tŷ Cymunedol, Ffordd Eton.

Ewch i'r wefan FoodCycle neu e-bostiwch [email protected]