Mae gan Cyngor Dinas Casnewydd rhestr eang o gymorth ar gael.

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, gall pob disgybl ysgol gynradd gael pryd ysgol am ddim.

Mae gennym fwy o wybodaeth ar ein tudalen we prydau ysgol am ddim.

Mae Grant Hanfodion Ysgolion Llywodraeth Cymru yn helpu i ariannu offer ar gyfer plant sydd â theuluoedd ar incwm isel.

Gall y grant ddarparu:

  • gwisg ysgol
  • cit chwaraeon ysgol
  • gwisg ar gyfer gweithgareddau
  • offer ysgol
  • gliniaduron neu dabledi
  • offer ar gyfer tripiau y tu allan i'r ysgol

Gwnewch gais ar ein tudalen we grantiau addysgol.

Mae'r cyngor yn cefnogi dosbarthu parseli bwyd ac mae nifer o fanciau bwyd yn y ddinas.

Os oes angen y gwasanaeth hwn arnoch, ffoniwch 0808 196 3482.

Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) gynllun grant i helpu sefydliadau.

Mae ceisiadau ar agor i fanciau bwyd a all helpu gyda chostau o ddydd i ddydd fel prynu bwydydd.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan CMGG.

[email protected]

Mae ein cysylltwyr cymunedol yn gweithio gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau i roi gwybodaeth a chyngor am gymorth.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we cysylltwyr cymunedol. 

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch [email protected]

Mae cyllid llywodraeth Cymru yn helpu'r cyngor i ddarparu cynnyrch am ddim drwy ysgolion, banciau bwyd, hefyd sefydliadau cymunedol.

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch [email protected]

Gall y cyngor gynnig cymorth treth y cyngor fel cynllun talu a gwneud cais am ostyngiad yn y dreth gyngor.

Ewch i'n tudalen we treth y cyngor i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych yn cael trafferth talu eich rhent, efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad tai dewisol.

Mae rhagor o gyngor ar gael ar ein tudalen taliad disgresiwn at gostau tai.

Gall y gwasanaeth hwn gefnogi gyda chyllidebu, cefnogi rheoli budd-daliadau, cyfathrebu â gwasanaethau dyled, a cheisiadau am grantiau.

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch [email protected]

Os ydych yn ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref neu angen cyngor ar dai, ewch i'n tudalen we cyngor tai a digartrefedd.

Mae cymdeithasau tai Casnewydd hefyd yn darparu cyngor a chymorth i denantiaid.

Y cymdeithasau yw:

Cysylltwch â nhw'n uniongyrchol am gymorth.