Gall unrhyw un sy'n hawlio budd-dal tai neu gymorth drwy Gredyd Cynhwysol wneud cais am taliad disgresiwn at gostau tai (TDGT).

Gallwch wneud cais os yw:

  • y lwfans tai lleol yn is na’ch rhent mewn eiddo rhent preifat
  • eich budd-dal tai neu Gredyd Cynhwysol yn cael ei ostwng oherwydd didyniadau annibynnol neu gyfraniadau costau tai
  • eich budd-dal tai neu Gredyd Cynhwysol yn cael ei leihau oherwydd eich bod o oedran gweithio, ac mae gennych ystafell wely sbâr mewn eiddo rhent cymdeithasol
  • eich budd-dal tai neu Gredyd Cynhwysol yn cael ei leihau oherwydd y cap budd-daliadau

Gall (TDGT) helpu gyda:

  • blaendal rhent
  • rhent ymlaen llaw ar gyfer eiddo nad ydych wedi symud iddo eto (rhaid i chi fod yn derbyn budd-dal tai ar eich cartref presennol)
  • darparu cyfandaliad ar gyfer costau fel symud tŷ

Ni all (TDGT) helpu gyda:

  • cynnydd mewn rhent oherwydd ôl-ddyledion
  • y gwahaniaeth os bydd gordaliad yn cael ei adennill o'ch budd-dal tai
  • rhai sancsiynau neu ostyngiadau mewn budd-daliadau

Cysylltwch â ni am ffurflen gais ac fe’i hanfonir atoch chi. Maent hefyd ar gael gan eich landlord cymdeithasol cofrestredig.