Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio ochr yn ochr â llawer o sefydliadau ac asiantaethau lleol i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i drigolion a busnesau.
Casnewydd yn Un
Mae Casnewydd yn Un (cyn BGC lleol) yn dilyn uno rhanbarthol wedi dod yn is-grŵp (Grŵp Cyflawni Lleol) o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent ac mae’n cynnwys partneriaeth o sefydliadau sy’n cydweithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol mewn Casnewydd.
Maent yn gwneud hyn trwy eu Cynllun Gweithredu Lleol, sy’n cyflawni blaenoriaethau lleol o fewn Cynllun Llesiant Gwent ac yn darparu gweithgarwch yng Nghasnewydd a fyddai’n elwa o ddull partneriaeth gref.
Ewch i wefan Casnewydd yn Un am ragor o wybodaeth.
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yn dod â chyrff cyhoeddus ynghyd i weithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Gwent. Maent yn gyfrifol, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), am oruchwylio datblygiad y Cynllun Lles Lleol newydd.
Ewch i wefan Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent i gael rhagor o fanylion.
Comisiwn Tegwch Casnewydd
Mae Comisiwn Tegwch Casnewydd yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i roi adborth ar benderfyniadau'r cyngor, a chyngor ar sut i wneud y penderfyniadau hynny'n decach.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Comisiwn Tegwch Casnewydd.
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn trawsnewid yr economi, tirwedd busnes a'r potensial ar gyfer ffyniant cynhwysol ar draws rhanbarth mwyaf poblog Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Porth y Gorllewin
Mae Corff Trafnidiaeth Is-genedlaethol Porth y Gorllewin (CTI) wedi'i ffurfio o wyth awdurdod cyngor lleol ac un awdurdod cyfunol.
Bydd CTI Porth y Gorllewin yn galluogi twf glân a mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gynaliadwy drwy raglen fuddsoddi hirdymor.
Ewch i wefan Porth y Gorllewin i ddarganfod mwy.
Dinasoedd Allweddol
Mae dinasoedd allweddol yn rhwydwaith cenedlaethol o 27 o ddinasoedd yn y DU. Mae gan y Dinasoedd Allweddol yr arbenigedd i ddarparu atebion arloesol ar gyfer yr heriau sy'n wynebu byw'n drefol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Dinasoedd Allweddol.
Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent
Mae Bwrdd Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwent Fwyaf yn gorff partneriaeth allweddol. Fe’i crëwyd i arwain gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ardal Gwent Fwyaf.
Mae'r blaenoriaethau a'r amcanion wedi'u cynnwys mewn Cynllun Ardal Rhanbarthol sy'n nodi ystod a lefel y gwasanaethau y maent yn bwriadu eu darparu, neu y trefnir eu darparu, mewn ymateb i'r asesiad o anghenion y boblogaeth.
Ewch i wefan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol am ragor o wybodaeth.