Mae'r cyngor yn croesawu gohebiaeth gan drigolion drwy:

Lles staff

Mae gan weithwyr CDC yr hawl i weithio heb ofni aflonyddu, cam-drin na thrais.

Ni fydd unrhyw fath o ymddygiad ymosodol yn cael ei oddef o dan unrhyw amgylchiadau. Bydd y cyngor yn ymdrin ag unrhyw ymddygiad sarhaus, bygythiol neu dreisgar o ddifrif.

Gall yr ymddygiad gael ei gofnodi a'i rannu rhwng adrannau perthnasol y cyngor. Gallai arwain inni dynnu rhai o wasanaethau'r cyngor yn ôl.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar sut rydych chi'n cysylltu â'r cyngor. Gallai hefyd gael ei reoli mewn modd penodol.

Rydym yn cadw'r hawl i gysylltu â'r heddlu. Gall hyn arwain at erlyniad.

Cysylltwch â'ch cynghorydd

Gallwch gysylltu â 51 cynghorydd etholedig Cyngor Dinas Casnewydd drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy'r post.

Chwiliwch am eich cynghorydd yn ôl enw neu ward.

Cynllun deiseb

Ein nod yw bod yn agored ac ymatebol i anghenion ein preswylwyr. Dylai preswylwyr bob amser allu dweud eu dweud fel bod y teimlad y gwrandewir arno. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y ddogfen isod am y cynllun deisebau.

Ymwelwch â ni

I ddod o hyd i'r cyfeiriad ar gyfer y Ganolfan Ddinesig ewch i fy Nghasnewydd 

Mae'r Ganolfan Ddinesig ar gau i'r cyhoedd. Mae ar agor i staff a phreswylwyr gydag apwyntiad yn unig.

Diogelwch ar-lein

Mae gan y cyngor nodweddion diogelwch i amddiffyn ein rhwydwaith cyfrifiadurol rhag negeseuon e-bost peryglus. Bydd unrhyw e-bost y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei sganio am eiriau niweidiol, ffeiliau, ac ati. Gall y cyngor rwystro e-byst am fwy nag un rheswm.

Os na chewch ymateb o fewn cyfnod amser rhesymol, gallwch ein ffonio.

Amgryptio neges

Defnyddir amgryptio neges Microsoft Office i anfon e-byst preifat yn ddiogel.

Er mwyn diogelu gwybodaeth breifat, efallai y byddwn yn anfon cod un-amser atoch. Mae hyn yn golygu y gallwch gyrchu'r wybodaeth yn ddiogel.

Bydd e-byst gan y cyngor yn gorffen bob amser â newport.gov.uk