Mae cyllidebu cyfranogol yn rhoi cyfle i breswylwyr helpu i benderfynu sut mae cyllid yn cael ei ddyrannu yn eu hardal leol.
Sut mae'n gweithio
Bydd asiantaeth leol, fel cyngor neu fwrdd iechyd, yn dyrannu cronfa o arian ar gyfer rhaglen gyllidebu gyfranogol.
Bydd y rhaglen yn ceisio ariannu prosiectau sy'n mynd i'r afael â materion sy'n seiliedig ar thema benodol neu set o amcanion.
Datblygir syniadau ar gyfer y prosiectau gan:
- aelodau o'r gymuned
- grwpiau lleol
- sefydliadau
sydd wedyn yn cyflwyno'r rhain fel cais am gyfran o'r cyllid.
Unwaith y bydd yr holl gynigion yn cael eu cyflwyno, mae dinasyddion yn dod at ei gilydd ar gyfer digwyddiad gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn rhoi cyfle i bob grŵp gyflwyno eu cais am gyllid.
Yna bydd y gymuned yn pleidleisio ar y ceisiadau, ac mae'r cyllid yn cael ei ddyrannu yn ôl canlyniadau'r bleidlais.
Mae gan y broses y fantais ychwanegol y gallwch ddod o hyd i wybodaeth am weithgareddau, prosiectau a gwasanaethau nad ydych efallai yn ymwybodol ohonynt.
Mae gan www.mutualgain.org fwy o wybodaeth am gyllidebu cyfranogol a manteision democratiaeth gyfranogol.
Egwyddorion a themâu allweddol
Rhaid i bob prosiect fynd i'r afael ag un neu fwy o'r themâu allweddol yma. Bwriad cyllidebu cyfranogol yw:
- adeiladu cymunedau mwy diogel, cryfach a mwy gwydn
- gwella iechyd, lles ac annibyniaeth pobl
- bod yn gynhwysol ac yn hygyrch, mynd i'r afael ag anfantais, a chefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed
- dod â chymunedau ynghyd ac annog partneriaeth, ymddiriedaeth a ffyrdd o weithio ar y cyd
- canolbwyntio ar ddulliau sy'n atal problem rhag gwaethygu, tra'n mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol
- mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, drwy weithredu yn yr hinsawdd a diogelu a gwella bioamrywiaeth
- gwneud Casnewydd yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef
Dylai prosiectau ddangos bod eu hangen, yn seiliedig ar y themâu allweddol uchod, a bod ganddynt ganlyniadau clir a mesuradwy.