Lleoliad

Mae Casnewydd yn sefyll wrth y porth rhwng Cymru a Lloegr.

Mae wedi'i leoli ar hyd coridor yr M4, dim ond 12 milltir o Gaerdydd.

Mae gan y ddinas gysylltiadau trafnidiaeth gwych ac mae hi ar y brif reilffordd rhwng Caerdydd a Llundain, gyda gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol i lawer o ddinasoedd mawr eraill y DU.

Mae meysydd awyr rhyngwladol Caerdydd a Bryste hefyd o fewn awr mewn car.

Ewch i wefan Dinas Casnewydd i gael rhagor o wybodaeth.

Proffiliau Ward Cymunedol

Cyfrifiad

Rheolir y cyfrifiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae'n digwydd bob 10 mlynedd ac yn rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.

Cynhaliwyd y cyfrifiad diwethaf yn 2021.

Rydym yn defnyddio'r data o'r cyfrifiad i helpu i benderfynu sut y caiff gwasanaethau eu cynllunio a'u hariannu yn eich ardal leol.

Gallwch weld canlyniadau'r cyfrifiad ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Proffiliau cymunedol Casnewydd

Mae gennym hefyd ein proffiliau cymunedol yng Nghasnewydd.

Maen nhw'n rhoi gwybodaeth leol i ni am bobl a chymunedau Casnewydd.

Gellir eu gweld nhw ar wefan Atlas Casnewydd.