Mae hunanwasanaeth gweithwyr (HG) yn caniatáu i chi gael at gofnod y cyngor o'ch manylion swydd a'ch manylion personol pwysig eich hun.

Gallwch ddiweddaru'r wybodaeth hon eich hun a gweld eich slip cyflog ar-lein.

Osgowch ddefnyddio Microsoft Internet Explorer wrth fynd i'ch cyfrif HG. Nid yw'r porwr hwn bellach yn cael ei gefnogi gan y platfform a gall hyn achosi problemau sylweddol.

Canllawiau i staff

Gweithwyr mewngofnodi sengl

  1. cliciwch ar ‘single sign-on account’ ar y sgrin mewngofnodi
  2. os ydych ar ddyfais breifat bydd angen i chi gwblhau cam dilysu ychwanegol
  3. mewnbynnwch eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair corfforaethol newport.gov.uk

Pob gweithiwr arall

  1. cliciwch ar ‘a different account’ ar y sgrin mewngofnodi
  2. mewn cofnodwch gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr a chyfrinair ESS penodedig

Peidiwch â chreu nod tudalen ar gyfer sgrin mewngofnodi ESS iTrent. Bydd gwneud hynny yn methu â chasglu unrhyw ddiweddariadau i'r ddolen.

Mewngofnodi HG 

Cysylltwch â Desg Gymorth iTrent gydag unrhyw broblemau.

Gwybodaeth bwysig am ddiogelwch

Gan fod system HG yn cynnwys gwybodaeth sensitif amdanoch chi, mae'n bwysig eich bod yn ei defnyddio'n gyfrifol i sicrhau bod diogelwch eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chynnal.

Dylech allgofnodi yn syth unwaith y byddwch wedi gorffen ac ni ddylech fyth rhannu eich enw defnyddiwr a chyfrinair HG. 

Cliciwch ar 'allgofnodi' yn y gornel dde uchaf neu caewch y porwr neu'r tab gan y bydd hyn yn eich allgofnodi'n awtomatig.

Ni all cyflogeion eraill weld eich manylion drwy HC, dim ond eu manylion eu hunain.