Mae'r ŵyl yn cychwyn gyda digwyddiad swper ar nos Wener 11 Hydref yn NP20 Bar a Kitchen yng Ngwesty Mercure.
Bydd prif gogydd yr ŵyl, Hywel Jones, yn creu pryd tri chwrs blasus ar thema Cymru. Bydd bwydlen fegan hefyd ar gael.
Nifer fach o docynnau sydd ar gyfer y swper ac maen nhw ar werth nawr, am £49.50 y pen. Am fwy o wybodaeth neu i gadw’ch lle, ewch i'n dolen archebu.
Mae manylion y masnachwyr fydd yn y farchnad fwyd draddodiadol ar ddydd Sadwrn 12 Hydref wedi cael eu cyhoeddi hefyd.
Ymhlith y wynebau cyfarwydd sy'n dychwelyd i'r ŵyl mae Beth's Bakes, Spirit of Wales, a Sorai. Bydd stondinau newydd ar gyfer 2024 hefyd, gan gynnwys Red Room Confectionery a Scoffle Ya Waffle.
Dywedodd Beth Williams, perchennog Beth’s Bakes: “Rydym wedi mynychu Gŵyl Fwyd Casnewydd ers blynyddoedd nawr ac rydym wrth ein bodd bob blwyddyn. Mae wedi dod yn ddigwyddiad allweddol yn ein calendr gwyliau bwyd, ac edrychwn ymlaen at weld y ddinas yn llawn pobl a gweithgareddau.”
Mae rhestr lawn o fasnachwyr sydd wedi’u cadarnhau ar gael i'w gweld ar wefan yr ŵyl.
Ddydd Sadwrn hefyd bydd y sgyrsiau a'r blasu a gynhelir yn y Gyfnewidfa Ŷd yn dychwelyd, a bydd Friars Walk yn cynnal y Pentref Fegan a Llysieuol.
Eleni bydd Marchnad Casnewydd unwaith eto yn cynnal y rhaglen o arddangosiadau coginio a bydd yn cynnwys rownd derfynol cystadleuaeth Cogyddion Ifanc Academi Ieuenctid Casnewydd.
Mae wynebau enwog sy'n arddangos eu sgiliau coginio eleni yn cynnwys y cogydd teledu, Cyrus Todiwala OBE DL FIH, a Jon Jenkins o Gasnewydd, cystadleuydd ar y Great British Bake Off yn 2018.
Mae gan ddydd Sul 13 Hydref ddigonedd o weithgareddau ar gyfer pob oedran, gan gynnwys cerddoriaeth gan y band lleol, yr Eurekas, fydd yn dechrau’r dathliadau am 11am y tu allan i'r Gyfnewidfa Ŷd.
Bydd sinema i blant hefyd ym Marchnad Casnewydd a disgo i blant am 12pm a gynhelir yn y Gyfnewidfa Ŷd.
Gyda llawer wedi ei gynnwys ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul, mae Gŵyl Fwyd Casnewydd yn sicr o fod yn benwythnos o hwyl a dathliadau i bob oed!
Cadwch lygad ar wefan Gŵyl Fwyd Casnewydd a sianeli’r cyfryngau cymdeithasol am fwy o fanylion.