Rôl allweddol Casnewydd ym mhotensial ynni Aber Afon Hafren

Yn ddiweddar, bu arweinydd y Cyngor, Dimitri Batrouni, yn chwarae rhan flaenllaw mewn trafodaeth bwysig am ymchwil barhaus i brosiectau ynni llanw posibl.
Councillor Batrouni outside the Civic Centre/Cynghorydd Batrouni y tu allan i'r Ganolfan Ddinesig

Mae partneriaeth Porth y Gorllewin, sy'n cynnwys Casnewydd, yn dod â busnesau, arbenigwyr ymchwil ac arweinwyr o bob rhan o Dde Cymru a Gorllewin Lloegr at ei gilydd i gydweithio ar gyrraedd sero-net, creu twf a denu buddsoddiad newydd. 

Ym mis Mawrth, lansiwyd Comisiwn Aber Afon Hafren i asesu dichonoldeb defnyddio'r aber i greu ynni cynaliadwy.

Bu'r Cynghorydd Batrouni a'r Cynghorydd Tony Dyer, arweinydd Cyngor Dinas Bryste, yn cadeirio sesiwn am gynnydd a chyfeiriad y comisiwn yn y dyfodol mewn confensiwn Porth y Gorllewin yn Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd.

Bu cynrychiolwyr o'r comisiwn, cynghorau ac Ystâd y Goron yn cymryd rhan yn y drafodaeth am fentrau i daro cydbwysedd rhwng datblygu cynaliadwy, diogelu'r amgylchedd ac ynni adnewyddadwy yn y rhanbarth.

Dywedodd y Cynghorydd Batrouni:  "Mae harneisio ynni o Aber Afon Hafren wedi bod yn destun trafod ers degawdau lawer, ond hyd yma does dim byd wedi dwyn ffrwyth. Gyda phrosiect ynni newydd y llywodraeth Lafur yn y DU, mae gennym gyfle i newid y stori honno o'r diwedd. 

"Yn fy marn i, mae o bwysigrwydd cenedlaethol hanfodol ein bod yn cyflawni prosiectau o'r fath, yn enwedig o ystyried y cynnydd mewn prisiau ynni flwyddyn yn ôl a'r rhyfeloedd presennol ledled y byd. Mae angen bod yn fwy annibynnol o ran ynni. 

"Hefyd, mae Casnewydd yn tyfu ar raddfa anhygoel ac i gynnal y twf hwnnw mae angen mwy o egni arnom, llawer mwy. Rwy'n teimlo'n gryf bod yn rhaid i ni bwyso a mesur yr holl opsiynau sydd ar gael i ni, yn enwedig y rhai sy'n diogelu ein hamgylchedd naturiol." 

Mae gan yr aber un o’r amrediadau llanw uchaf yn y byd a’r uchaf yn Ewrop.  Amcangyfrifwyd bod ganddo'r potensial i gynhyrchu 7% o gyfanswm anghenion trydan y DU. 

Cadeirydd y comisiwn yw Dr Andrew Garrad CBE, un o arloeswyr y diwydiant gwynt modern, ac mae disgwyl iddo wneud argymhelliad terfynol erbyn mis Mawrth 2025 yn dilyn ymgysylltu â rhanddeiliaid, ymchwil a dadansoddi perthnasol. 

Fis diwethaf, penodwyd dau gonsortia arbenigol i arwain amgylchedd hanfodol ac elfennau economaidd-gymdeithasol y gwaith hwn.